Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015
Amser: 09.00 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3291
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Bethan Jenkins AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Dr John Cox, Deisebydd Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru Rob Southall, Deisebydd |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 248KB) Gweld fel HTML (203KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod Mr Lloyd Jones ac wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi bod i weld y goeden gyda Mr Lloyd Jones ac wedi gwneud sylwadau mewn cyfarfod ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi nodi a yw'n cefnogi gwarchod y goeden a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff ei gwarchod.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn:
· Gofyn am ei farn am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr;
· Gofyn pa ymchwil sydd wedi'i wneud i'r effaith ar ddisgyblion sy'n derbyn eu haddysg gynradd tu allan i Gymru a'u haddysg uwchradd yng Nghymru ac a oes gan gonsortia addysg unrhyw wybodaeth am nifer y disgyblion yr effeithir arnynt fel hyn.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a chytunodd i:
· ofyn eto am ymatebion gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru;
· gofyn am farn y deisebydd am lythyr y Dirprwy Weinidog; ac
· ystyried y mater hwn ymhellach yn y Flwyddyn newydd ar ôl derbyn yr ymatebion hynny.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud i gymryd materion yn eu blaen.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· aros am farn y deisebwyr am lythyr cynharach y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth Grŵp NPTC; a
· chau'r ddeiseb os na cheir ymateb erbyn diwedd mis Ionawr.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr ystyried derbyn y cynnig o gyfarfod â swyddogion yn y lle cyntaf ac i fwydo yn ôl i'r Pwyllgor er mwyn i'r Aelodau i ystyried y ffordd orau o gymryd materion yn eu blaen.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau pellach ynghylch llythyr diweddaraf y deisebwyr, yn arbennig ei farn ynghylch barn y grŵp gorchwyl a gorffen am ganolfannau cerddoriaeth fel model; ac
· ysgrifennu at CBAC i ofyn am wybodaeth bellach am ei gynlluniau yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried yr ymddengys bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â phryderon y deisebwyr ac wedi cytuno'n flaenorol i sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu hystyried wrth ddatblygu'r canllawiau newydd, cytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, ond wrth wneud hynny, dangos bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos bod llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y mater yn ei flaen yn y Cynulliad hwn.
Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd o blaid cau'r ddeiseb o gofio bod y prif faterion y mae'n eu codi yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Fodd bynnag, mynegodd yr Aelodau siom nad oedd yn ymddangos bod Croeso Cymru na Chynghrair Twristiaeth Cymru wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth a chytunodd i ysgrifennu eto at y ddau sefydliad ac ystyried y ddeiseb ymhellach pan ddaw'r ymatebion i law.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Gau'r ddeiseb gan fod y Pwyllgor wedi cymryd y mater hwn cyn belled ag y gall; ac
· Wrth wneud hynny, gofyn i Mr O'Brien, Prif Weithredwr WEFO:
o am ei sylwadau am lythyr y deisebwyr a'i ymateb i'w cwestiynau penodol; a
o chwrdd â'r deisebwyr i drafod eu pryderon.
Ystyriodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol a oedd yn dangos bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli lle nad oes gan y Cynulliad y pŵer i gymryd y camau y mae'r ddeiseb yn galw amdanynt. O ystyried hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor anfon crynodeb o'r cyngor cyfreithiol ymlaen at y deisebydd.
Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r tystion am eu profiad o system ddeisebau'r Cynulliad.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth cyn iddo baratoi ei adroddiad.
Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar yr adolygiad o ddeisebau, ynghyd â'r dystiolaeth lafar a glywyd yn y sesiwn cynharach, a chytunodd i ystyried argymhellion ar gyfer newidiadau posibl trwy ohebiaeth yn y lle cyntaf.
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb nes iddo dderbyn rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 24 Tachwedd.